dictionaryportal.eu

Amdanom ni

Mae geiriaduron yn rhan bwysig o fywyd yn y byd rhyngwladol amlieithog sydd ohoni heddiw. Mae'r Porth Geiriaduron Ewropeaidd yma i'ch helpu i ddod o hyd i eiriaduron da, ar lein, y gellir dibynnu arnynt ar gyfer ieithoedd Ewropeaidd, waeth a ydych yn academydd, yn gyfieithydd, yn athro iaith neu'n syml yn ymddiddori mewn ieithoedd. Mae pob geiriadur a restrir yma wedi ei ddethol yn ofalus gan guraduron y Rhwydwaith e-Eiriadura Ewropeaidd sy'n eiriadurwyr arbenigol eu hunain ac sy'n dilyn meini prawf pendant wrth benderfynu pa eiriaduron i'w cynnwys a pha rai i'w gwrthod.

Ydych chi'n gwybod am eiriadur a ddylai fod fan hyn? Rhowch wybod i ni amdano! Caiff eich argymhelliad ei adolygu gan un o'n curaduron ac, os ystyrir ei fod yn addas, caiff y geiriadur ei gynnwys yn y Porth Geiriaduron Ewropeaidd. Bydd perchnogion y wefan yn cael gwahoddiad i arddangos ein nod cymeradwyaeth ar eu gwefan.